Mae’r Pwyllgor yn cyflwyno’r adroddiad a ganlyn i’r Cynulliad:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
CLA156 - Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (Diwygio) 2012
Gweithdrefn: Negyddol.
Fe’u gwnaed: 25 Mai 2012.
Fe’u gosodwyd: 30 Mai 2012.
Yn dod i rym:21 Mehefin 2012
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
CLA154 - Rheoliadau Seibiannau i Ofalwyr Plant Anabl (Cymru) 2012
Gweithdrefn: Cadarnhaol.
Fe’u gwnaed: heb ei nodi.
Fe’u gosodwyd: heb ei nodi.
Yn dod i rym: 28 Mehefin 2012
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Negyddol
Dim
Offerynnau’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol
Dim
Busnes arall
Ymchwiliadau'r Pwyllgor: Ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan yr Athro Thomas Glyn Watkin, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Bangor. Gofynnodd yr Aelodau am nodyn ar Gynhadledd y Llefarydd 1918.
CLA151 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2012
Nododd y Pwyllgor fod esboniad y Prif Weinidog ynghylch absenoldeb fersiynau Cymraeg o’r Offerynnau Statudol a wnaed ar y cyd â Gweinidogion y DU yn y cyfarfod ar 11 Tachwedd 2011 yn gymwys hefyd i CLA151 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau Myfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2012.
Penderfynu i gyfarfod yn breifat
Yn unol â Rheolau Sefydlog 17.42(vi) a (ix) penderfynodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod er mwyn trafod goblygiadau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (y Bil Llywodraeth Leol) i’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU a’r dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno hyd yn hyn fel rhan o’r ymchwiliad i sefydlu awdurdodaeth ar wahân i Gymru.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
18 Mehefin 2012